Psalms 98

Duw yn rheoli'r byd

Salm

1Canwch gân newydd i'r Arglwydd,
am ei fod wedi gwneud pethau anhygoel!
Mae ei fraich gref,
wedi ennill y fuddugoliaeth iddo.
2Mae'r Arglwydd wedi dangos ei allu i achub!
Mae wedi dangos i'r cenhedloedd ei fod yn Dduw cyfiawn.
3Mae wedi cofio ei gariad a'i ffyddlondeb i bobl Israel;
ac mae pawb drwy'r byd i gyd wedi gweld Duw yn achub.
4Dewch, bawb drwy'r byd i gyd,
gwaeddwch yn uchel i'r Arglwydd!
Gweiddi'n llawen, a chanu mawl iddo!
5Canwch fawl ar y delyn i'r Arglwydd;
canwch gân hyfryd i gyfeiliant y delyn!
6Seiniwch yr utgyrn a chwythu'r corn hwrdd
98:6 corn hwrdd Hebraeg, “shoffar”
.
Dewch, bawb drwy'r byd i gyd,
gwaeddwch yn uchel i'r Arglwydd, y Brenin!
7Boed i'r môr a phopeth sydd ynddo weiddi;
a'r byd hefyd, a phawb sy'n byw ynddo.
8Boed i'r afonydd guro dwylo,
ac i'r mynyddoedd ganu'n llawen gyda'i gilydd
9o flaen yr Arglwydd!
Achos mae e'n dod i roi trefn ar y ddaear!
Bydd e'n barnu'r byd yn hollol deg,
a'r bobloedd yn gwbl gyfiawn.
Copyright information for CYM